Beth wnaethon ni

Gwnaed yr ymchwil gan grwp gwaith o 12 o bobl ifanc, oedd yn cyfarfod yn wythnosol yng nghlwb ieuenctid Mynydd Llandygai. Seiliwyd ein dull o weithredu ar gynllun 7 cam;

Cam 1. Ymchwilio i wybodaeth gefndirol ar y goedwig

Darganfuom fod gan y grwp gwaith wybodaeth dda iawn o ddaearyddiaeth y fforest a’u bod yn gwneud defnydd rheolaidd ohoni eu hunain. Trwy ein hymchwil darganfuom fod y Comisiwn Coedwigaeth eisoes wedi dynodi meysydd polisi clir ar gyfer defnydd y gymuned o’r goedwig. Cafodd rhain eu defnyddio fel fframwaith i gychwyn y gwaith. Dyma’r meysydd polisi:

  • Mynediad i bawb
  • Porthorion Coedwig
  • Prosiectau Celf
  • Coetiroedd er mwyn dysgu
  • Chwaraeon a hamdden
  • Hwyluso ymrwymiad
  • Hyfforddiant mewn gwaith
  • Cynllunio Coetir
  • Gwarchod Coedwig

Daeth hefyd i’r amlwg nad oeddent yn gwybod llawer am hanes y goedwig, pwy oedd berchen arni a’i rheolaeth.

Cam 2. Dewis ein dulliau o ymgynghori

Ymchwiliwyd gwahanol opsiynau er mwyn cyflwyno’r ymgynghoriad, fel y gellid cynnwys y gymuned gyfan mewn nifer o wahanol ffyrdd: cyfarfodydd cyhoeddus, y wasg leol, ar lafar gwlad. Penderfynwyd mai rhoi holiadur dwyieithog i bob ty yn Mynydd Llandygai fyddai’r ffordd orau o
gyflawni ein hamcanion.

Cam 3. Drafftio ein holiadur a’i brofi

Penderfynwyd defnyddio papur lliw a i aith llai ffurfiol (a ffont) yn ein holiadur. Dangosodd ein hymchwil fod y grwp prawf yn galw planhigfa Parc y Bwlch yn ‘y fforestri’. Dyma’r enw y penderfynom ei ddefnyddio ar gyfer y goedwig. Ysgrifenwyd yr holiadur yn Saesneg ac fe’i gyfieithwyd i’r Gymraeg (Diolch Brian Davies). Cafodd yr holiadur ei ddosbarthu i bobl ifanc ac oedolion yng Nghlwb Ieuenctid Llandegai ac i nifer o oedolion o fewn teuluoedd y grwp gwaith. Dangosodd y prawf fod angen i ni wella’r cyfarwyddiadau ar gyfer y cwestiynau oedd yn gofyn i’r defnyddiwr roi marc i’r gwahanol weithgareddau, gan fod rhai yn marcio yn groes i beth oeddent yn ddymuno – gan roi’r marc uchaf i’r gweithgareddau roeddent yn
eu hoffi leiaf. Gwnaethom y newidiadau ar gyfer y copi terfynol o’r holiadur.

Cam 4. Dosbarthu a Chasglu

Fe wnaethom roi dau gop i Cymraeg a dau gopi Saesneg o’r holiadur ym mhob amlen, yn y gobaith y byddai cymaint o aelodau o’r teulu a phosibl yn eu cwblhau. Cawsant eu dosbarthu trwy law gan rai o aelodau’r grwp, ar droed, beic, rhai mewn car, ac amgaewyd taflen yn rhoi eglurhad syml a phryd y buasem yn casglu’r atebion. Fe wnaethom ystyried sut byddai’r ffordd orau i bobl ddychwelyd yr holiaduron: ai trwy’r post (gan amgáu amlen gyda stamp a chyfeiriad arni), eu gadael yn y neuadd goffa neu trwy alw ym mhob ty i’w casglu, a phenderfynwyd mai’r opsiwn olaf fyddai orau. Doedd hyn ddim mor ddi-lol ag yr oeddem wedi ddisgwyl ac fe wnaethom ddysgu o’r profiad. Roedd yr ardal yr oeddem yn dosbarthu ynddi yn ymestyn o Ysgol Bodfeurig, o amgylch ochr uchaf Ffordd yr Ocar gan gynnwys Tan y Bwlch, Llwybr Main, Ffordd Hermon, yr Afon, Gefnan ac ochr uchaf Bryn Allt Eglwys. Roeddem yn ymwybodol nad oedd hon yn ardal ddosbarthu gynhwysfawr, gan fod Mynydd Llandegai yn cydffinio gyda Sling a Sling yn cydffinio gyda Thregarth, a dim ffordd hawdd o dynnu llinell derfyn Mynydd Llandegai. Roeddem hefyd yn ymwybodol y gallai ardaloedd nad oeddem wedi eu cynnwys y tro hwn, gael eu cynnwys yn ystod camau pellach o’r prosiect pan yn gwneud ymchwil o ddefnyddwyr y fforest o bosibl neu ymgynghoriad gyda thrigolion Tregarth,Rhiwlas ac ardaloedd eraill cyfagos.

Cam 5. Dadansoddi

Y cam cyntaf wrth ddadansoddi canlyniadau’r holiadur oedd rhoi’r wybodaeth mewn taenlen Excel ac yna dadansoddi’r ffigyrau yn y daenlen trwy ddefnyddio Microsoft Access. Gwnaed hyn gyda
chymorth Bianca Ambrose-Oji a Jenny Wong.

Cam 6. Cyflwyniad ac Adroddiad

Rydym wedi ysgrifennu yr adroddiad hwn i roi gwybod i bobl beth yr ydym ni wedi ei wneud ac i wneud canlyniadau’r ymgynghoriad yn gyhoeddus. Fe wnaethom drefnu cyflwyniad cyhoeddus o ganlyniadau’r adroddiad yng Nghlwb Ieuenctid Llandegai ar yr 2il o Chwefror 2009.

Cam 7. Gwerthuso

Fe wnaethom werthuso’r prosiect gyda Wayne a ysgrifenodd adroddiad gwerthuso gyda’r grwp gwaith a’r bobl a lenwodd yr holiadur trwy drafod ac asesu ar lafar.