Y Prosiect

Rhagarweiniad

Sefydlwyd ein cynllun gan grŵp cymunedol Coetir Mynydd, i weld pa ddefnydd mae cymuned Mynydd Llandygai yn ei wneud o blanhigfa Coedwigaeth Parc y Bwlch, coetir conifferaidd ger y pentref ar lethrau mynydd Moel Y Ci (gweler map 1). Dywedwyd wrthym bod cynllun y fforest ar fin cael ei adolygu, a phenderfynodd Coetir Mynydd y byddai’n werth ymgynghori gyda’r gymuned leol i ddod i wybod sut mae pobl yr ardal yn defnyddio’r fforest, a sut yr hoffent iddi gael ei defnyddio yn y dyfodol. Prif amcan yr ymgynghoriad oedd darganfod barn y gymuned leol a’i gyflwyno i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.

Nawdd a Staff

Penderfynodd Coetir Mynydd ofyn i ni, pobl ifanc o’r gymuned, i gynorthwyo gyda’r ymgynghoriad. Llwyddodd Coetir Mynydd i gael nawdd ar gyfer y prosiect gan The Russell Commission er mwyn ein cynorthwyo i gael cymorth a chefnogaeth i ddarganfod beth oedd barn y bobol am y goedwigaeth. Cyflogwyd Wayne Talbot o WTA Education fel ymgynghorwr ar y cynllun, oedd yn gallu cynnig arbenigedd ar y fethodoleg ‘Perthnasedd Gweithgaredd’. Cyflogwyd gweithwyr ieuenctid lleol Martin Daws a Kirsten Hails i weithredu’r cynllun

Map 1 - Lleoliad Parc y Bwlch mewn perthynas â Mynydd Llandygai
Map 1 - Lleoliad Parc y Bwlch mewn perthynas â Mynydd Llandygai